Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd
 Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
 Tŷ Hywel
 Bae Caerdydd
 CF99 1SN

Y Pwyllgor Deisebau
 —
 Petitions Committee
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 Deisebau@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddDeisebau 
 0300 200 6565
 —
 Welsh Parliament
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 Petitions@senedd.wales 
 senedd.wales/SeneddPetitions
 0300 200 6565
 

20 Chwefror 2024

Annwyl Llyr,

P-06-1388 Dileu'r gofyniad i ffermwyr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed i allu manteisio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd

Trafododd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb ar 29 Ionawr 2024.  Cytunwyd i ysgrifennu atoch i dynnu sylw at y ddeiseb hon ac i ofyn a ellir ystyried y materion a amlygir fel rhan o unrhyw waith yn y dyfodol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Rydym hefyd yn ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Yng ngoleuni’r gwaith sy’n debygol o gael ei wneud gan Bwyllgorau eraill ar y mater, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

Efallai y byddwch hefyd am nodi bod deiseb yn galw am Gael gwared ar y Gweithredoedd Sylfaenol o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi casglu mwy na 10,000 o lofnodion ers ei gychwyn yn gynharach y mis hwn. Er gwybodaeth mae deiseb arall newydd yn galw am Diddymu holl bolisïau Llywodraeth Cymru o Agenda 21/Agenda 2030/Datblygu Cynaliadwy, gan gynnwys Sero Net.

Mae rhagor o wybodaeth am ddeiseb P-06-1388, gan gynnwys gohebiaeth gysylltiedig, ar gael ar ein gwefan: https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=42610

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm clercio'r Pwyllgor.

 Yn gywir

Text, whiteboard  Description automatically generated

Jack Sargeant AS

Cadeirydd

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.